Addysg Ffilm

Mae HUMANiTREE yn ffilm ddogfen mentrus, hyd llawn, a grëwyd a chynhyrchwyd gan bobl ifanc yn Urban Circle Newport. Gan gyfuno gwyddoniaeth, cymdeithaseg a naratif personol, mae'r ffilm yn archwilio tarddiad Affricanaidd pob bywyd dynol, gan herio'r camsyniadau sy'n seilio hiliaeth ac anghydraddoldeb heddiw.

Trwy gyfweliadau â genetegwyr, haneswyr a chymdeithasegwyr byd-enwog, mae HUMANiTREE yn datgelu sut mae hil yn adeiladwaith cymdeithasol, nid yn wirionedd biolegol - a sut mae ein cyneifiaid gyffredin yn ein cysylltu'n ddyfnach nag a ddysgir inni rhan amlaf.

Wedi'i gwreiddio mewn addysg gwrth-hiliol ac actifiaeth cyfryngau dan arweiniad ieuenctid, mae'r ffilm yn fwy na rhaglen ddogfen, mae'n offeryn ar gyfer dysgu, deialog a thrawsnewid mewn ystafelloedd dosbarth, cymunedau a sefydliadau ar ledled Cymru a thu hwnt.

 

Mae Wales Untold yn rhaglen ddogfen ddeinamig dan arweiniad pobl ifanc a gynhyrchwyd gan Urban Circle Newport sy'n datgelu hanesion cudd cymunedau du a lleiafrifol ethnig yng Nghymru. Trwy gyfweliadau pwerus, straeon lleol, a delweddaeth creadigol, mae'r ffilm yn datgelu sut mae'r cymunedau hyn wedi siapio diwylliant, diwydiant a gwrthwynebiad Cymru - er gwaethaf cael eu hanwybyddu mewn naratifau prif-ffrwd.

Gan herio'r bylchau yn ein cof cyfunol, mae Wales Untold yn cynnig gwrth-naratif i hanesion goloneiddiedig ac Ewro-ganolog, gan adfeddiannu gofod i leisiau sydd wedi'u cau allan ers amser maith o'n stori genedlaethol.

Mae'r ffilm yn datganiad artistig ac yn offeryn addysgol - gan sbarduno sgyrsiau critigol mewn ysgolion, prifysgolion a mannau cymunedol ar hyd Cymru a'r DU.

 

Film Education

Contact Us