Mibinti Webbe
Fy enw i yw Mibinti Webbe. Ers pan oeddwn i'n blentyn, rydw i wastad wedi cymryd rhan mewn sioeau talent, cystadlaethau dawns, a pherfformiadau; gan arddangos yr hyn rydw i wrth fy modd yn ei wneud, boed mewn dawns neu ganu. Fy angerdd dros ddawnsio a chanu a'm gyrrodd i sefydlu G-Expressions ochr yn ochr gyda fy nghyfneither Loren, a fy chwaer Talieh. O 13 oed, gwirfoddolais yn fy nghymuned lleol gyda'n chwaer-sefydliad Urban Circle Newport. Yn 2010, roedd angen enfawr am leoedd i ddawnswyr fynegi a chreu, felly dyna sut y ganwyd G-Expressions.
Dros ddegawd yn ddiweddarach, rydw i wedi ennill llawer iawn o wybodaeth a phrofiad o fewn amrywiaeth o gymunedau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydw i nawr yn Weithiwr Ieuenctid proffesiynol ar ôl graddio o fy Ngradd BAhons mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol: Cyfiawnder Ieuenctid ym Mhrifysgol De Cymru yn 2017.
Rydw i hefyd yn Diwtor Dawns, ac yn Gydlynydd y Cwrs ar gyfer G-Expressions. O fewn fy rôl, rydw i'n cychwyn/arwain y Rhaglenni Arweinydd Dawns ac yn addysgu sesiynau Dawns a Phunt. Yn y rolau hyn, rwy'n gallu defnyddio fy ngalluoedd trosglwyddadwy a'm galluoedd creadigol i rannu sgiliau a gwybodaeth gyda'r cenedlaethau nesaf; wrth greu amgylchedd hwyliog a diogel i bawb archwilio a herio eu hunain. Ar hyn o bryd mae gen i dîm o Fentoriaid Dawns sy'n fy nghynorthwyo mewn dosbarthiadau a phrosiectau - rwyf wedi addysgu pob un ohonynt o oedran ifanc ac rwyf wedi'u gweld yn tyfu ac yn datblygu. Mae'r Mentoriaid hyn yn uwchsgilio eu hunain ac yn cysgodi'r tîm craidd er mwyn amlynu sgiliau addysgu a chael cyfleoedd cyflogaeth.
Nawr ar ôl ennill fy nghymwysterau - rwy'n awyddus i dyfu a datblygu fy hun a'n tîm cymaint ag y gallaf. Mae hyn yn fy ngalluogi i rhoi i weithred gwerthoedd amrywiaeth o fewn ein cymunedau lleol, gan fod y bobl ifanc rydyn ni'n cwrdd â nhw yn aml yn brin o ddealltwriaeth, mae ganddyn nhw hunan-barch isel ac maen nhw'n cael eu bwyta gan y negyddiaeth a'r stereoteipiau sy'n eu hamgylchynu.
Yn ogystal â dawns - mae gen i angerdd dros ganu, modelu a'r celfyddydau. Rwy'n teimlo'n gryf iawn am ddefnyddio fy angerdd nid yn unig i wella fy mhrofiadau fy hun ond i rannu gyda fy nghyfoedion a'r bobl ifanc sy'n defnyddio ein gwasanaethau i'w gwella a'u cyflawni ar eu teithiau dethol!
Mibinti.webbe@ucnewport.co.uk