Vote for Urban Circle Newport for £1

Byddem wrth ein bodd yn cael eich cefnogaeth yn ein cenhadaeth gydweithredol gyfredol gyda Jamaica yn sgil Corwynt Melissa, a achosodd ddinistr i gartrefi, ysgolion a busnesau. Mae ein perthynas hirdymor â Jamaica yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau, ysgolion, grwpiau ieuenctid ac artistiaid, tra’n meithrin dysgu a rennir ac arweinyddiaeth ym maes dinasyddiaeth fyd-eang, llesiant, ecoleg a’r cwricwlwm.

Gallwch helpu drwy:

• Gefnogi ein digwyddiadau cymunedol lleol yng Nghymru.
• Rhoi cyfraniad tuag at eitemau/gweithgareddau cymorth i Jamaica.
• Cysylltu â ni i archwilio cyfleoedd i gydweithio.

Pleidleisiwch drosom i gael grant!

 
Mwy amdanom ni:

Mae Urban Circle yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru a Jamaica (DARPL Community of Practice a Chlwb Bechgyn a Merched Grange Town, Caribbean Heritage Cymru, Rastafari Indigenous Village, ysgolion a mwy).

Mae Rhaglen TAITH yn cefnogi ein rhaglen gyfnewid addysgol a diwylliannol ryngwladol drwy:

• Dod â phobl o dreftadaethau amrywiol o Gymru a Jamaica ynghyd i gyd-archwilio safbwyntiau ecolegol.
• Mae’r gyfnewidfa hon yn darparu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl ifanc ac arweinwyr, gan adeiladu ar y gwaith parhaus yng Nghymru, Jamaica a gwledydd eraill, gan ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ARWAP ar gyfer 2030, ac wrth gryfhau ac ystyried Confensiwn UNESCO ar Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol (2003).